This post will play a key role in the provision of a truly innovative, psychologically and trauma informed model of support for young people in Cardiff who are homeless or threatened with homelessness. This ambitious project aims to make youth homelessness rare, brief and non-recurrent.This is an exciting opportunity for someone who wants to be part of the solution to end homelessness for young people, by equipping them with the necessary tools to overcome adversity, harnesses their potential, goals and dreams to enjoy a brighter future.Support will be modelled on the ‘The Housing First’ approach to enable young people with complex needs to maintain a tenancy and enjoy having a home. It will involve working with each young person to explore their strengths, goals and aspirations, providing specific support around their personal, emotional and psychological needs equipping them with coping skills and tools to improve emotional resilience to prevent future homelessness.This is the first Housing First for Young People Scheme in Cardiff and as such it is a really exciting time to join at the inception of such a project and be part of its creation and development. There is a real need for this scheme in Cardiff in order to accommodate young people whose needs mean that they have been unable to access supported accommodation and require a high level of flexible person centred support.Llamau is leading the My Way Home Partnership in Cardiff working alongside strategic, research and delivery partners including Cardiff Council, Cardiff University, Welsh Refugee Council, Cadwyn Housing Association, United Welsh Housing Association, Platfform, Cardiff and Vale Health Board.Bydd y swydd hon yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddarparu model cymorth gwirioneddol arloesol wedi’i lywio gan seicoleg a thrawma i bobl ifanc yng Nghaerdydd sy’n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd. Nod y prosiect uchelgeisiol hwn yw gwneud digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn rhywbeth prin, am gyfnod byr, sydd ddim yn digwydd yn rheolaidd.Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd eisiau bod yn rhan o'r datrysiad i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc drwy gynnig yr offer priodol iddynt oresgyn trallod, meithrin eu gallu, gwireddu eu targedau a'u breuddwydion er mwyn mwynhau dyfodol llawer mwy disglair.Bydd cymorth yn cael ei fodelu ar y dull 'Tai yn Gyntaf' er mwyn galluogi pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth i gynnal tenantiaeth ac i fwynhau cael cartref. Bydd yn cynnwys gweithio gyda phob person ifanc i ddatblygu eu cryfderau, nodau a dyheadau, gan gynnig cymorth penodol ynghylch eu hanghenion personol, emosiynol a seicolegol, gan eu cyfarparu nhw â sgiliau ymdopi ac offer i wella gwytnwch emosiynol, er mwyn atal digartrefedd yn y dyfodol.Hwn yw'r tro cyntaf i ni gynnal Cynllun Tai yn Gyntaf i Bobl Ifanc yng Nghaerdydd, ac mae'n gyfnod hynod gyffrous i ymuno â ni, ar ddechrau prosiect o'r fath, ac i fod yn rhan o'r gwaith cynllunio a datblygu. Mae angen gwirioneddol am y cynllun hwn yng Nghaerdydd er mwyn cefnogi pobl ifanc y mae eu hanghenion yn golygu nad ydynt wedi gallu cael mynediad at lety â chymorth, ac mae angen lefel uchel o gymorth hyblyg, sy'n canolbwyntio ar y person, arnynt.Mae Llamau yn arwain y bartneriaeth Fy Ffordd Adref yng Nghaerdydd gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid strategol, ymchwil a chyflawni gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Cymdeithas Tai Cadwyn, Cymdeithas Tai Unedig Cymru, Platfform a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r FroLleoliad: Cefnogaeth Symudol - CaerdyddCyflog: £24,222 y flwyddynOriau: Oriau llawn amser yw 35 awr yr wythnos gydd waith ar alwad
Read Less